Royal Oak, RuthinRoyal Oak RhuthunLlety'r Dderwen, Rhuthunoffice (000) 000-0010
fax (000) 000-0100
toll-free (000) 000-0001

Bwcio eich Arhosiad

Mae'r taliad yn cynnwys:

Gwely a brecwast Cymreig llawn, traddodiadol, Ewropeaidd neu lysieuol.

Yn eich LLOFFT: te traddodiadol, Earl Grey neu lysieuol (mintys, te gwyrdd ayb), coffi ffiltr, dwr swigog a llonydd, diod ffrwythau, creision, bisgedi, siocled a decanter o sieri.

Yn y lle molchi: sebon swigod, siampw, sebon cawod, 'hand lotion', sebon molchi, gwlân cotwm, byds cotwm, chwaden felen fach, cap cawod, cot nos wen ('dressing gown'), gwlanen molchi a digonedd o dywelion gwynion gwlân.

Bwciwch Yma  Neu ffoniwch ni ar:  07967 814334

Ystafelloedd dwbwl:
Dwy noson neu ragor
£70-90 Y LLOFFT y noson fel arfer

Ystafell deulu (mwyafswm o 4):
Dwy noson neu ragor
£70-90 Y LLOFFT y noson fel arfer


Un person mewn llofft:
DIM COST YCHWANEGOL

Person ychwanegol yn eich llofft
(12 - 18 yn unig)
£25 y person ychwanegol

Gallwn dderbyn un noson yn ystod yr wythnos ond nid fel arfer ar benwythnosau. Holwch rhag ofn! 

Rydym yn derbyn VISA, MASTERCARD a CHERDIAU DEBYD

Blaendal: £30 yr ystafell / y noson. Ni ellir ei ad-dalu pe baech yn canslo eich arhosiad.

Gofynir i chi gyrraedd rhwng 16.00 ac 18.00. Gadewch i ni wybod os fyddwch yn hwyrach na hyn. Ar noson eich ffarwelio, gofynir i chi fod wedi gadael eich ystafelloedd cyn 10.30 y bore. Rydymyn yn hwylio brecwast rhwng 8.00 a 9.30.

Gan nad oes gennym y cyfarpar angenrhediol, dim ond plant dros 10 oed fedrwn eu derbyn yma yn Llety'r Dderwen.


Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o'r llety.


gwely pedward postyn yn y Royal Oak 

Gallwch brynu Tystysgrif Aros ar-lein fel anrheg i rywun hoff. cliciwch yma:

 

Adnoddau Perthnasol

  • Llwybrau seiclo
  • Cerdded, a theithiau cerdded ym Mharc Gwledig Moel Famau.
  • Holwch am daflenni
  • Troeon hanesyddol oddeutu'r dref - gyda Hanesydd Personol.
  • Beth am 'massage' personol yn eich stafell? Holwch.