Royal Oak, RuthinRoyal Oak RhuthunLlety'r Dderwen, Rhuthunoffice (000) 000-0010
fax (000) 000-0100
Bwciwch Yma

Diogelwch a mynediad i'r llai abal

 

Carem fedru croesawu pawb yma i Lety'r Dderwen, ond tydy bywyd ddim mor syml a hynny. Does gennym ddim gardd fawr gyda chyfarpar i blant ayb, felly mae hyn yn ein cyfyngu i dderbyn plant dros 10 oed yn unig. Yn anffodus, nid oes gennym ychwaith lefydd arbennig ar gyfer anifeiliaid anwes.

 

Ond, ceisiwn ein gorau i gynnig y canlynol:

 

Y Gwesty

 

Mae'r fwydlen ar gael mewn print bras.

Mae gennym un ystafell wely ar y llawr gwaelod gydag en-suite addas. Gellir defnyddio cadair olwyn yn hwylus ar y llawr isaf.
Ceir grisiau i'r llawr cyntaf. Rydym wedi daparu lle chwech ychwanegol ar y llawr gwaelod.

Nid yw'r cyfleusterau gennym ar gyfer anifeiliaid anwes.

Mae na dderbyniad ffonau llaw eitha da, gan gynnwys Vodaphone, 3 ac Orange.

 

 

Yr Ystafelloedd Gwely

 

Ceir canllawiau wedi eu hargraffu mewn print bras ym mhob ystafell wely.

Mae pob tegell yn ddi-wifren.

Gellir defnyddio zaper ('remote cotroll') gyda'r teledu.

Mae'r lampau gwely yn gweithio wrth eu cyffwrdd.

 

 

Y Brecwast

 

Gallem ddarparu llaeth soya, coffi a the di-gaffin, selsig di-gig ac wyau ieir rhydd (free range). Holwch!

 

 

 

Pwy ydych chi?

Gallwn ddarparu ar gyfer:

  • Grwpiau Priodas
  • Mis mel - ystafell arbennig!
  • Cerddwyr
  • Pobol sy'n chwilio am westy o safon uchel
  • Haneswyr: mae Rhuthun yn orlawn o hanes!
  • Seiclwyr: holwch am lwybrau
  • Gwesteion priodas: gallem ddarparu pecyn croeso (blodau, siampen...)
  • Hel achau'r teulu? Mae'r Archifdy Sirol ar draws y ffordd i'n drws ffrynt!
  • Golffwyr:mae Clwb Golff Pwllglas-Rhuthun yn cynnig gemau i ymwelwyr undydd.