Royal Oak, RuthinRoyal Oak RhuthunLlety'r Dderwen, Rhuthunoffice (000) 000-0010
fax (000) 000-0100
Bwciwch Yma

Beth ydym yn ei gynnig?

Mae gan bob ystafell wely pedwar postyn (ar wahan i'r ystafell deulu), spa neu gawod stem, cadair 'massage' a theledu HD. Ac mae nhw'n foethus! Arnofiwch ynddynt!

Mae pob ystafell wely hefyd yn en-suite, a'r rheiny yn newydd sbon (2009).

Y Gwesty a'r Boutique
Cyn cychwyn atgyweirio, 2009.

Ceir digonedd o lefydd bwyta da yn Rhuthun i chi ymweld a nhw fin nos: y Manor Hause, Bar W (Yr Hen Wynnstay), y Pictiwrs Bach ac wrth gwrs Gwesty Rhuthun. Tydan ni ddim yn medru cynnig pryd fin nos ar hyn o bryd ond gallwn fwcio un o'r tri lle uchod ar eich rhan.

Brecwast o safon, gan ddefnyddio bwydydd a chynhwysion lleol pan fedrwn.

Parcio

Mae digonedd o le parcio yng nghefn y gwesty (drwy'r hen fynedfa ceffyl-a-throl). Mae dau faes parcio enfawr o fewn canllath i'r gwesty hefyd.

Lleoliad

Rydym ar draws y ffordd i'r Hen Garchar, sydd yn arddangosfa wych a byw ac ar agor i'r cyhoedd. Gallwch fynd o'i amgylch 7 diwrnod yr wythnos. Mae ty hynafol Nantclwyd i fyny'r stryd (pum munud o gerdded) ac felly hefyd Castell Rhuthun. Fedrwch chi ddim fod mewn lleoliad gwell!

Carchar Rhuthun drwy ffenest un o'r llofftydd
Carchar Rhuthun drwy ffenest un o'r llofftydd.

 

Beth am brynu anrheg i'ch partner: tystysgrif i aros yma, wedi ei dalu amdano gennych chi.

Clwb Golff Pwllglas: 7 munud i ffwrdd.

clwb golff Rhuthun-Pwllglas

 

pedwar postyn

Un o'r llofftydd dwbwl. Cliciwch yma i weld y llofftydd.

 

moel famau, denbighshire, north wales

Parc Gwledig Moel Famma - golygfa o Ruthun.

 

wy wedi'i rwdlan gydag eog wedi'i fygu

Bwyd lleol da... a digon ohono fo!